Welsh Ambulance Services NHS Trust
Croeso i’r Ystafell, ble gall plant a phobl ifanc gael gwybodaeth am Wasanaethau Ambiwlans Cymru

Ymgyrchoedd ac Adnoddau

Os hoffech i un o’r criwiau ymweld â’ch ysgol/coleg, soniwch wrth un o’r athrawon a gofynnwch iddynt gysylltu â ni i drefnu ymweliad.  Gallant ffonio ar 01792 776252 est 5439 neu e-bost at cheryl.munro@wales.nhs.uk

Dewis Doeth
Os byddwch yn sâl neu’n cael eich anafu gwnewch yn siwr eich bod yn dewis y gwasanaeth GIG cywir i wneud yn siwr eich bod yn cael y driniaeth orau. Cliciwch ar y cysylltau isod i gael mwy o wybodaeth ar y gwasanaethau gwahanol a cymerwch y cwis Dewis Doeth i brofi eich gwybodaeth.

Dewis Doeth - Galw Iechyd Cymru
Cwis 1 Dewis Doeth
Cwis 2 Dewis Doeth


Diogelwch Ffyrdd
Rydym wedi lansio ymgyrch i helpu plant a phobl ifanc ddeall peryglon tynnu sylw ger ffyrdd prysur.

Mae’r criwiau hefyd wedi bod yn ymweld ag ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a cholegau i rannu gwybodaeth am yr hyn maent yn weld a’i wynebu tra’n delio gyda gwrthdrawiad trafnidiaeth ar y ffyrdd yn ddyddiol.

Gallwch lawr lwytho copi o’r poster Diogelwch Ffyrdd yma.


Taflennu lliwio i blant

Mae gennym nifer o daflenni lliwio ar gael i chi eu lawr wytho ac argraffu, gallwch wedyn lliwio mewn.

Os hoffech lawr lwytho'rtaflennu lliwio cliciwch yma.


Codi Ymwybyddiaeth am y 'Choking Game'

Mae yna arfer sy'n peri pryder sydd yn dechrau tyfu mewn boblogaeth ymysg pobl ifanc. Mae'r 'Choking Game' (hefyd yn cael ei alw'n Space Monkey, Funk Monkey, Funky Chicken neu Fainting Game) yn arfer ymysg plant a phobl ifanc ble y maen nhw'n hunan-tagu er mwyn cael teimlad o uchelder byr.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

 

Caniatâd ym maes gofal iechyd

Mae'r daflen yma ar gyfer Plant a Phobl Ifanc o dan 18 oed yng Nghymru. Mae'n esbonio amdano eich gofal iechyd ac eich hawliau i fod yn ymglymedig mewn penderfyniadau eich iechyd, gofal iechyd a'ch triniaeth. Cliciwch yma i weld y daflen.