Lleoliad Cyfredol >
Hafan
Hafan
Cyn deialu 999 am ambiwlans, gofynnwn ichi gofio:
- Os na fyddwch yn teimlo’n dda ac yn ansicr beth i’w wneud, ffoniwch wasanaeth Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 a siarad gyda chynghorydd nyrsio am gyngor a gwybodaeth, sydd ar gael 24 awr y dydd, bob dydd.
- Os byddwch yn fyddar neu’n drwm eich clyw, ffoniwch rif ffôn destun Galw Iechyd Cymru ar 0845 606 46 47.
- Os bydd gennych argyfwng meddygol fel bod yn anymwybodol, anhawster anadlu, amheuaeth o drawiad ar y galon, colli gwaed yn ddifrifol, anaf difrifol neu losgiadau difrifol ffoniwch 999.
- Gall anfon ambiwlans i alwad nad yw’n argyfwng ohirio’r ymateb i glaf sy’n ddifrifol wael neu wedi’i anafu’n ddifrifol.
- Nid yw cleifion â mân salwch neu anaf sy’n cyrraedd yr ysbyty mewn ambiwlans yn derbyn triniaeth gyflymach
Cliciwch ar y cyswllt hwn ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol
