Meddyliwch yn ofalus cyn deialu 999
Mae llawer o alwadau rydym yn eu derbyn yn rhai nad ydynt yn achosion brys sy'n bygwth bywyd. Os gwelwch yn dda, meddyliwch yn ofalus cyn deialu 999. Gallwch helpu i achub bywydau.
Peidiwch ag oedi cyn galw 999 mewn achos brys gwirioneddol sy'n bygwth bywyd, fel poenau yn y frest, prinder anadl, anymwybyddiaeth neu waedu difrifol.
Fodd bynnag, mae amryw o opsiynau eraill i bobl sydd ag anafiadau neu salwch llai difrifol, gan gynnwys:
- Ymweld â'r fferyllfa leol
- Ffonio 111
- Ymweld â www.111.gig.cymru
- Ymweld â'r Meddyg Teulu lleol
Pan fydd angen i chi fynd i'r ysbyty, a oes modd i chi gyrraedd yno mewn car, cludiant cyhoeddus neu dacsi?
Ni chewch eich gweld funud ynghynt yn yr ysbyty oherwydd i chi gyrraedd yno mewn ambiwlans.
Os byddwch yn deialu 999 am broblem nad yw'n un wirioneddol frys, yna gallech fod yn gohirio'r ymateb i rywun sy'n dioddef gan gyflwr sy'n bygwth bywyd.
Deialwch 999 ar unwaith am achosion brys fel
- Poen yn y frest
- Anhawster anadlu
- Anymwybyddiaeth
- Colli gwaed yn ddifrifol
- Tagu
- Ffitiau/ confylsiynau
- Boddi
- Ymatebion alergaidd difrifol
Galw 112 am wasanaethau brys
Mae 112 yn rhif ffôn y gwasanaethau brys. Pan fyddwch yn ffonio 112 byddwch yn defnyddio'r gwasanaethau brys yn yr un modd â 999. Yr unig wahaniaeth yw bod 112 yn gweithio ledled yr UE.