Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n monitro perfformiad y GIG drwy amrywiol fesurau a safonau.
Un o ddulliau Llywodraeth y Cynulliad o fonitro’r perfformiad yw cyhoeddi Fframwaith Gweithredu Blynyddol bob blwyddyn. Cyhoeddwyd y Fframwaith Gweithredu Blynyddol (AOF) am y tro cyntaf yn 2007/2008 ac mae’n amlinellu disgwyliadau’r GIG o fewn un flwyddyn ariannol. Mae’n cynnwys y targedau cenedlaethol a alwyd gynt yn dargedau Fframwaith Gwasanaeth a Chyllid (SaFF), Mesurau Effeithiolrwydd a Chynhyrchiant ynghyd â gofynion ychwanegol y gwasanaethau.
Hefyd, mae, Safonau Gofal Iechyd Cymru, yn amlinellu fframwaith safonau gofal iechyd cyffredin Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi’r GIG a sefydliadau partneriaeth wrth ddarparu gwasanaethau effeithiol, amserol a safonol ym mhob lleoliad gofal iechyd.
Yn fewnol, cyflwynir amrediad eang o adroddiadau ariannol a pherfformiad gan yr holl gyfarwyddiaethau i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth i’w cynnwys ym Mhapurau Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn ddeufisol. Gellir cael mwy o wybodaeth o Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth.