Mae Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys 13 aelod, pob un â hawl pleidleisio
- Cadeirydd
- 7 Cyfarwyddwr Anweithredol
- Prif Weithredwr a 4 Cyfarwyddwr Gweithredol
Swyddogaeth y Bwrdd yw:
- Gosod polisi a chyfeiriad strategol yr Ymddiriedolaeth;
- Rheoli’r Risg;
- Rheoli ei phobl a’i hadnoddau;
- Sefydlu systemau rheolaeth i’w galluogi i fesur cynnydd a pherfformiad yn effeithiol ac i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni;
- Gweithio mewn partneriaeth a gyda budd-ddeiliaid allweddol yn fewnol ac yn allanol.
Mae gan Gyfarwyddwyr Anweithredol rôl bwysig i’w chwarae yn natblygiad yr Ymddiriedolaeth. Ynghyd â monitro strategaeth a pherfformiad cyffredinol yr Ymddiriedolaeth, maen nhw hefyd yn cysylltu’n gyffredinol gyda’r Cyfarwyddwyr Gweithredol a staff allweddol eraill. Mae eu gwybodaeth am anghenion lleol oherwydd eu profiad, yn sicrhau cyfraniad gwerthfawr wrth ddatblygu strategaethau i gyflawni’r heriau cynyddol sy’n wynebu’r Ymddiriedolaeth.