Gweithio tuag at amcan ar y cyd i ddarparu trafnidiaeth yn ddiogel yn y gymuned
Yn ogystal â defnyddio ein cerbydau nad ydynt yn rhai brys ein hunain i gludo ein cleifion i'w hapwyntiadau ysbyty, rydym hefyd yn dibynnu ar gymorth darparwyr amgen.
Mae'r darparwyr hyn, boed ar sail wirfoddol neu drwy ein Fframwaith 365, yn ymgymryd â gwaith a drefnwyd ledled Cymru.
Rydym bob amser yn awyddus i groesawu darparwyr newydd, isod mae rhywfaint o wybodaeth bellach a manylion cyswllt os hoffech holi ymhellach.
Gallwn;
- Cynnig gwaith cynaliadwy i chi ledled Cymru i'ch galluogi i ddefnyddio'ch adnoddau ar adegau tawel;
- Cynnig hyblygrwydd i ffitio o fewn eich cyfnodau amser prysur a thawel;
- Cynnig cyfraddau cystadleuol;
- Helpu i godi eich safonau drwy arolygiadau a hyfforddiant a chynnig asesiadau risg;
- Eich helpu i gyflawni eich amcan fel sefydliad i ddarparu cludiant yn ddiogel yn y gymuned.
Mae gennym ddau ddewis ar gael; gallwch ddewis gweithio drwy un neu'r ddau, pa un bynnag sydd orau i'ch sefydliad!
For more information and to speak to one of our team please contact olivia.barnes@wales.nhs.uk