Cewch, cwn tywys a chwn cymorth cydnabyddedig yw'r unig anifeiliaid sy'n cael teithio ar ein cerbydau ambiwlans.
Mae "ci cymorth cydnabyddedig" yn un sydd wedi'i hyfforddi'n benodol i gynorthwyo person anabl ac sydd wedi'i amodi gan un o'r sefydliadau elusennol sydd wedi'u cofrestru fel aelodau o Assitant Dogs UK.
Wrth archebu eich cludiant ambiwlans, gwnewch yn siwr eich bod yn gadael i ni wybod bod gennych gi cymorth y bydd angen deithio gyda chi. Bydd hyn yn caniatáu i ni sicrhau ein bod yn anfon cludiant atoch sy'n diwallu eich anghenion yn llawn.