Os canfyddir eich bod yn gymwys bydd eich cludiant yn cael ei archebu a byddwch yn cael cynnig neges destun I’ch ffôn symudol 48 awr cyn eich archeb. (bydd y neges hon yn eich atgoffa o amser a dyddiad eich archeb ac yn gofyn i chi gadarnhau a oes angen y cludiant arnoch o hyd).
Os canfyddir nad ydych yn gymwys ar gyfer y cludiant i gleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, byddwn yn eich hysbysu am unrhyw ddulliau teithio amgen sy'n addas i'ch anghenion er mwyn eich galluogi i wneud eich trefniadau eich hun ar gyfer eich apwyntiad.
Os bydd cost ar gyfer y dulliau trafnidiaeth amgen hynny, mae'n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhywfaint o'r costau teithio yn ôl neu'r cyfan ohonynt os ydych yn cael unrhyw rai o'r canlynol;
• Budd-daliadau cymhorthdal incwm;
• Lwfans yn seiliedig ar incwm gwaith;
• Credydau treth gwaith neu gredydau treth plant, neu;
• Cynnal HC2 neu HC3
Am ragor o wybodaeth am y cynllun costau teithio gofal iechyd yn eich gwasanaeth gofal iechyd lleol yn y GIG neu drwy ymweld â NHS Choices.