Gofynion mynediad cyffredinol
Mae'r rhinweddau sy'n ofynnol i ddod yn aelod llwyddiannus o'r NEPTS yn cynnwys:
• ffocws ar ganolbwyntio ar y claf
• personoliaeth gytbwys, sy'n gallu gweithio'n dda dan bwysau
• gofalgar a thosturiol
• gonestrwydd ac uniondeb
• safon dda o addysg gyffredinol
• lefel dda o ddeheurwydd llaw a ffitrwydd personol
• sgiliau dyfeisgarwch a threfnu
• y gallu i weithio'n unigol yn ogystal â rhan o dîm
Rhaid i ymgeiswyr am swyddi staff gweithredol feddu ar:
• safon dda o addysg
• trwydded yrru lawn yn cynnwys lleiafswm o gategori B (categori C a D yn ddymunol)
• rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr â hyd at dri phwynt ar eu trwydded
• ni ddylech fod wedi'ch cael yn euog o unrhyw droseddau gyrru difrifol
Bydd gofyn i ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer gynnal asesiad a chyfweliad, a bydd manylion y rhain yn cael eu rhoi i'r ymgeiswyr llwyddiannus.
Hyfforddiant
Mae'r rhaglen hyfforddi gychwynnol ar gyfer staff gweithredol NEPTS yn cynnwys:
• Pythefnos o hyfforddiant cynefino sy'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i staff i sicrhau bod anghenion penodol y cleifion yn cael eu diwallu, yn ogystal â chymorth cyntaf, cymorth bywyd sylfaenol a sgiliau gofal cleifion. Mae hyfforddiant statudol a gorfodol hefyd yn cael ei gynnwys yn y cwrs hwn, e.e. trin yn fwy diogel, datrys gwrthdaro, diogelu a rheoli heintiau.
• Un wythnos o hyfforddi gyrwyr
Dangosir ein holl swyddi gwag presennol yma. Er mwyn gwneud cais, ewch i www.jobs.nhs.uk. Gallwch hefyd gofrestru eich cyfeiriad e-bost ar wefan swyddi'r GIG, a bydd y wefan yn eich hysbysu'n awtomatig pan fyddwn yn hysbysebu swyddi gwag.
Gallwch hefyd gael y newyddion diweddaraf a swyddi gwag gan wasanaeth ambiwlans Cymru drwy ein dilyn ar Facebook a Twitter.
Gwirfoddoli
I holi am wirfoddoli gyda ni, cliciwch yma.