Mae Joga yn gyfreithiwr cyflogaeth profiadol, sy'n gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Mae'n gweithio ar ran cleientiaid o'r sector cyhoeddus, preifat ac nid er elw.
Mae Joga'n meddu ar dros 15 mlynedd o brofiad o weithio'n agos gydag Aelodau Bwrdd a Thimau Uwch Reoli yng nghyswllt datblygu'r sefydliad, arweinyddiaeth a'r gweithlu.
Mae'n darparu cyngor strategol, ymarferol a masnachol ar bob agwedd o gyfraith cyflogaeth.