
Heb ymchwil, ni fyddai llawer o'r triniaethau a'r mathau o ofal a dderbyniwn yn rheolaidd heddiw yn y GIG ar gael.
Mae gan Aelodau'r cyhoedd ran hanfodol i'w chwarae, oherwydd heb i bobl gytuno i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil, ni fyddai'r triniaethau a'r gofal gwell hyn yn bodoli.
Mae llawer o wahanol ffyrdd y gall pobl gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys:
- derbyn triniaeth newydd
- ateb holiaduron
- rhoi caniatâd i ymchwilwyr edrych ar eich nodiadau meddygol
- rhoi sampl gwaed neu wrin
Mae ymchwil yn rhan arferol o driniaeth a gofal yn GIG Cymru. Gallwch gael gwybod pam ei fod yn bwysig, sut i gymryd rhan, beth yw'r manteision a beth sy'n gysylltiedig â'r bobl sy'n cymryd rhan ar wefan ymchwil iechyd a Gofal Cymru.
Doeth am iechyd Cymru
Gallwch ymuno ag astudiaeth Doeth am iechyd Cymru os ydych yn 16 oed neu'n hyn ac yn byw yng Nghymru, Gwahoddir pawb i ymuno!
Bydd ateb cwestiynau syml am eich iechyd a'ch ffordd o fyw yn helpu i ddiogelu eich iechyd chi a'ch ffrindiau, eich teulu, a chenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.