Achub Bywyd: Dysgwch CPR
Bob mis Hydref, i nodi Diwrnod y Galon Ailgychwyn Byd-eang, byddwn yn cydlynu hyfforddiant miloedd o fyfyrwyr ar draws ysgolion uwchradd yng Nghymru.
Os bydd rhywun yn dioddef ataliad ar y galon, mae eu siawns o oroesi'n dyblu os yw'n digwydd o flaen gwylwyr sy'n dechrau CPR ar unwaith cyn i ni gyrraedd.
Diolch am eich cymorth, byddwn nôl flwyddyn nesaf.
Achub Bywyd Cymru
Sefydlwyd Achub Bywyd Cymru i annog pobl Cymru i ddysgu CPR ac i deimlo’n hyderus wrth ddefnyddio di-ffib petai rhywun yn cael ataliad ar y galon yn y cartref.
Yn flynyddol, yng Nghymru, bydd dros 6,000 o bobl yn cael ataliad ar y galon yn y gymuned ac mae’r gyfradd oroesi yn llai na 5%. Nôd Achub Bywyd Cymru yw cynyddu y gyfradd oroesi hwn yn sylweddol.
Mae’r ymgyrch Cyffwrdd â Bywyd yn canolbwyntio ar addysgu sgiliau sylfaenol CPR a diffibrilio - oherwydd Covid-19 mae hwn yn hyfforddiant ar-lein.
Treuliwch ychydig funudau’n dysgu neu’n eich atgoffa eich hun o’ch sgiliau CPR – gallai’r rhain fod yn funudau pwysig iawn.
Cewch mwy o wybodaeth ar www.llyw.cymru/achubbywydcymru
Gwyliwch y fideo CPR yma.