I bobl fyddar, sy’n drwm eu clyw neu â nam ar eu lleferydd
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bellach yn rhan o wasanaeth SMS brys cenedlaethol.
Mae’r gwasanaeth SMS brys yn caniatáu i bobl fyddar, sy’n drwm eu clyw neu â nam ar eu lleferydd yn y D.U. i anfon neges testun SMS i wasanaeth 999 y D.U. a throsglwyddir i’r heddlu, ambiwlans, tân ac achub neu wylwyr y glannau.
Trwy anfon neges SMS i 999 gallwch alw am gymorth a gall y gwasanaethau brys ymateb.
Bydd yn rhaid cofrestru gydag SMS brys yn gyntaf cyn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn. I gofrestru â’r gwasanaeth hwn, danfonwch y neges destun ‘register’ i 999. Cewch chi ateb, dilynnwch y cyfarwyddiadau ynddi.Cliciwch ar y cyswllt gwefan isod i wybod sut i gofrestru.
Cofiwch:
Mae hwn yn wasanaeth brys a dylid ei ddefnyddio mewn argyfwng yn unig ar gyfer y canlynol:
- Bywyd mewn perygl
- Os ydych yn ddifrifol wael
- Os ydych angen ambiwlans brys
- Rhywun wedi anafu neu dan fygythiad
- Trosedd/helynt yn digwydd nawr
- Person sy’n troseddu gerllaw
- Pan fydd tân neu bobl wedi eu dal mewn tân
- Rhywun mewn helynt, neu ar goll, yn y môr
- Rhywun mewn helbul ar y clogwyn neu ar y traeth.
Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth SMS brys:
I wybod mwy am y gwasanaeth a sut i gofrestru, ewch i wefan SMS brys: www.emergencysms.org.uk