Mae’r Tîm Profiad y Claf a Chynnwys y Gymuned yn cynnwys pobl mewn gwahanol ddulliau ac yn defnyddio ymateb, sylwadau ac awgrymiadau pobl i helpu i wella’r gwasanaethau. Drwy gynnwys cleifion a’r cyhoedd yng ngwaith yr Ymddiriedolaeth, gall helpu i newid a gwella’r modd y mae gofal a gwasanaethau’n cael eu cyflenwi.
Nod y tîm yw:
· Addysgu cleifion a’r cyhoedd am wasanaethau’r Ymddiriedolaeth a’r modd i allu cael gafael a defnyddio gwasanaethau iechyd yn briodol
· Annog pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a hybu negeseuon byw’n iach
· Cynnwys a chysylltu ag ystod eang o ddefnyddwyr gwasanaethau, y cyhoedd, grwpiau, gwasanaethau a budd-ddeiliaid i greu perthynas agored gyda’r Ymddiriedolaeth
· Cefnogi pobl i gael gwybodaeth ac adnoddau iechyd drwy amrywiol ddulliau a fformatau a defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau deallus
· Creu perthnasoedd gwaith agosach ar draws yr Ymddiriedolaeth a rhwng adrannau i hybu gwaith y Tîm Profiad y Claf a Chynnwys y Gymuned gan addysgu staff am brif egwyddorion cyfranogi, gwybodaeth a rhoi grym.
Os ydych chi am gymryd mwy o ran yn ein gwaith, gallwch ymuno â ein Rhwydwaith . Mae’n cynnwys aelodau’r cyhoedd; pobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth; cynrychiolwyr grwpiau cleifion a gwasanaethau a sefydliadau eraill sydd wedi nodi eu diddordeb a’u cefnogaeth i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Ymddiriedolaeth. Bydd pob aelod o’r Rhwydwaith yn derbyn copi o ‘Newyddion y Rhwydwaith’ sef ein Taflen Newyddion sy’n ymddangos ddwywaith y flwyddyn ac sy’n adrodd hanes gwaith a wnaed mewn partneriaeth gydag aelodau’r Rhwydwaith.
Mae nifer o weithgareddau’n cael eu cynnal a gallwch ddewis y rhai yr hoffech chi gymryd rhan ynddyn nhw, er enghraifft:
· Cymryd rhan yn ein Panel Darllenwyr
· Mynychu cyfarfodydd yn yr Ymddiriedolaeth
· Cynnal arolygon
· Bod yn rhan o ymarferion Siopwr Cudd
· Cyflwyno eich stori fel claf