MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn drist iawn i hysbysu am golled ail gydweithiwr i Covid-19.
Bu farw Paul Teesdale, atebwr galwadau gyda Gwasanaeth Cludiant Cleifion yr Ymddiriedolaeth, a oedd yn gweithio yng Nghwmbran, neithiwr ar ôl cael prawf cadarnhaol am y feirws ddydd Calan.
Ymunodd Paul, 64 oed o Bontyclun, gyda’r gwasanaeth ambiwlans ym mis Mehefin...
MAE penodiad Cyfarwyddwr Anweithredol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Emrys Davies, wedi’i ymestyn am 12 mis.
Bydd Emrys, a gafodd ei benodi am y tro cyntaf yn 2014, yn parhau fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar y Bwrdd tan 31 Mawrth 2022.
Mae’r Bwrdd yn cynnwys y Cadeirydd a’r Cyfarwyddwyr Anweithredol, y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr Gweithredol...
MAE PÅR a ddioddefodd golli plentyn yn ddirybudd wedi’u hysgogi i weithredu’n gadarnahol yn dilyn y drasiedi trwy godi arian ar gyfer diffibrilyddion achub bywyd.
Roedd Graham a Zoe Mitchell, o Gaerfyrddin, ar wyliau yn Fethiye, Twrci, ym mis Gorffennaf 2017 pan aeth merch Graham, Mali James-Mitchell, yn sâl a chafodd ei rhuthro i’r ysbyty. ...
MAE prif wefan cyngor a gwybodaeth iechyd Cymru wedi cael y nifer uchaf o ymweliadau yn 2020 ers creu’r wefan.
Edrychwyd ar wefan GIG 111 Cymru 5.8 miliwn o weithiau y llynedd, gyda’r gyfran uchaf – 1.6 miliwn – ym mis Mawrth ar ôl y cyhoeddiad am y pandemig byd-eang.
Y dudalen Gwiriwr Symptomau Covid-19 yw’r dudalen fwyaf boblogaidd...