‘999? Dwi’n methu cysgu!’ – Y galwadau ffôn mwyaf amhriodol i Wasanaeth Ambiwlans Cymru

24th November 2020

GWNAETH rhywun ffonio 999 am nad oedden nhw’n medru cysgu, tra bod un arall wedi galw oherwydd bod ysguthan wedi anafu ei hadain.    

Daeth galwadau amhriodol eraill i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan rywun gyda sudd nionyn yn eu llygaid, unigolyn yn credu fod ganddyn nhw ysgarthion mewn toriad yn y croen a rhywun a oedd wedi dal eu bys mewn drws. 

Roedd bron i chwarter y 457,375 o alwadau i’r gwasanaeth yn ystod y 12 mis diwethaf yn rhai nad oeddynt yn hanfodol, yn cynnwys rhywun yn dioddef gyda’r ddannoedd a rhywun a oedd wedi bod â swn mwmian yn eu clust am wythnos. 

Wrth wynebu ei gyfnod prysuraf mae’r gwasanaeth ambiwlans yn atgoffa pobl i ffonio 999 mewn argyfwng difrifol neu dan amgylchiadau sy’n peryglu bywyd yn unig. 

Dywedodd y Prif Weithredwr, Jason Killens: “Mae ein gwasanaeth ambiwlans ni’n bodoli i gynorthwyo pobl sy’n ddifrifol wael neu wedi’u hanafu’n ddrwg, neu lle bo’u bywyd mewn perygl. 

“Mae hynny’n cynnwys pobl sydd wedi rhoi’r gorau i anadlu, pobl â phoen yn y frest neu anawsterau anadlu, wedi mynd yn anymwybodol, tagu, adweithiau alergaidd difrifol, gwaedu catastroffig neu rywun sy’n dioddef strôc. 

“Mae gan bobl sydd wedi gwasgu eu bys neu’r ddannoedd angen clinigol, ond mae ffonio 999 i ymateb i’r angen hwnnw yn anaddas pan fo cymaint o ffyrdd eraill i gael cymorth mwy priodol. 

“Mae galwadau nad ydynt yn rhai brys yn cynrychioli bron i chwarter ein galwadau 999, ac mae’r amser sy’n cael ei dreulio’n ymdrin â’r rhain yn amser y gellid ei dreulio’n cynorthwyo rhywun mewn sefyllfa byw neu farw.” 

Mae’r Ymddiriedolaeth yn gofyn i’r cyhoedd feddwl yn ofalus cyn iddyn nhw ffonio 999 wrth nesáu at gyfnod prysur y gaeaf. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Lee Brooks: “Yn draddodiadol y gaeaf yw ein cyfnod mwyaf heriol, ac eleni mae gennym ni bandemig byd-eang i ymdopi ag ef hefyd. 

“Mae’n hawdd i ni dynnu sylw at bobl sy’n ffonio 999 yn ddifeddwl, ond mae gan y bobl hyn angen clinigol dilys – dydyn nhw ddim yn gwybod lle i fynd i gael ymateb i’r angen. 

“Rydym ni’n gofyn i’r cyhoedd addysgu eu hunain ynghylch y gwasanaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd ar gael yn eu hardal, ac mae llawer ohonyn nhw. 

“Mae gwefan GIG 111 Cymru yn lle da i ddechrau er mwyn cael gwybodaeth a chyngor, ond dylech ystyried eich fferyllydd, deintydd ac optegydd lleol hefyd, yn ogystal â’ch meddyg teulu a’r uned mân anafiadau lleol. 

“Hefyd sicrhewch fod gennych chi gyflenwad da yn eich cwpwrdd meddyginiaethau ar gyfer pethau y gellir eu trin gartref, fel peswch ac anwyd, dolur gwddf a sgriffiniadau. 

“Mae gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i ddefnyddio gwasanaethau’r GIG yn ddoeth a’u diogelu ar gyfer y rhai sydd fwyaf o’u hangen – un diwrnod gallai hynny fod eich plentyn, eich rhiant neu eich partner chi, neu hyd yn oed chi eich hun. 

“Helpwch ni i’ch helpu chi y gaeaf hwn, a meddyliwch ddwywaith cyn ffonio 999.”

Enghreifftiau
Mae’r isod yn alwadau 999 go iawn i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf. Cafodd bob un o’r galwyr hyn eu hailgyfeirio at Galw Iechyd Cymru/GIG 111 Cymru i’w hasesu gan nyrs, ac eithrio’r galwr olaf, a gafodd ei ailgyfeirio at y Gymdeithas Frenhinol er atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA) –

Galwad 1
Galwr:
Mae gen i sudd nionyn yn fy nwy lygad a dydw i ddim yn gwybod beth i’w wneud. 
Atebwr: Dywedwch wrtha i yn union beth sydd wedi digwydd. 
Galwr: Roeddwn i’n malu nionod a dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi golchi fy nwylo’n iawn a dwi’n meddwl fod gen i sudd nionyn yn fy llygaid, a dydw i ddim yn gwybod beth i’w wneud. 

Galwad 2
Galwr:
Dwi wedi sylwi ar doriad bach ar fy mraich ac mae gen i ofn fod rhywbeth wedi mynd i mewn iddo. 
Atebwr: Beth ydych chi’n feddwl sydd wedi mynd i mewn iddo?
Galwr: Pw.
Atebwr: Oes gennych chi unrhyw boen?
Galwr: Oes – ychydig bach, bach. Ar y fraich lle mae’r toriad yn y croen, ond mae o’n, wel, ysgafn iawn, prin rydw i’n sylw arno. 

Galwad 3
Galwr:
Yn sylfaenol be sydd wedi digwydd ydi, rydw i wedi dal fy mys mewn drws, mae wedi tynnu fy modrwy ac mae wedi torri’r croen ac mae’n llidus. 
Atebwr: Oes yna unrhyw waedu difrifol?
Galwr: Na, dim ond toriad i’r croen.

Galwad 4
Galwr:
Dydw i ddim yn medru mynd i gysgu?
Atebwr: Dydach chi ddim yn medru mynd i gysgu?
Galwr: Nac ydw.
Atebwr: Oce, be ydi’r rheswm am hynny? Oes gennych chi unrhyw symptomau? 
Galwr: Dwi’n olreit ond dydw i ddim yn medru syrthio i gysgu. 

Galwad 5
Atebwr:
Ydi’r claf yn effro?
Galwr: Dwi’n ffonio ar ran fy mhartner sy’n dioddef efo’r ddannoedd.  

Galwad 6
Atebwr:
Beth ydi cyfeiriad llawn yr argyfwng, os gwelwch yn dda?
Galwr: Dydi o ddim yn argyfwng mawr ond doeddwn i ddim yn gwybod pwy i’w ffonio.  Atebwr: Dywedwch wrtha’ i yn union beth sydd wedi digwydd. 
Galwr: Am yr wythnos ddiwethaf neu tua hynny, rydw i wedi mynd yn fyddar mewn un glust. Yn ddiweddar rydw i wedi dechrau clywed swn mwmian, os ydi hynny’n gwneud synnwr? Dydw i ddim yn medru clywed yn dda iawn yn y glust yna. 

Galwad 7

Atebwr: Ambiwlans, be ydi cyfeiriad yr argyfwng?

Galwr: Mae’n argyfwng ond ddim i mi, mae ar gyfer anifail. Ai dyma’r lle cywir i’w ffonio?

Atebwr: Rydych chi wedi dod trwodd i’r llinell argyfwng.

Galwr: Mae gen i ysguthan y tu allan i fy nhy ac mae wedi’i hanafu, yn methu hedfan. Mae gen i biti drosti, dydw i ddim yn gwybod beth i’w wneud.

Nodiadau’r Golygydd
Mae galwadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru’n cael eu categoreiddio mewn trefn blaenoriaeth: mae galwadau COCH yn rhai difrifol lle mae bywyd mewn perygl ar unwaith, mae rhai MELYN yn ddifrifol ond dydi bywyd ddim mewn perygl uniongyrchol ac mae galwadau GWYRDD yn rhai nad ydynt yn argyfwg na brys. 

Derbyniwyd y 108,153 o alwadau GWYRDD y cyfeirir atyn nhw yma rhwng 1 Hydref 2019 – 30 Medi 2020, ac maen nhw’n cynrychioli 24 y cant o gyfanswm y galwadau 999 (457,375) a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod hwnnw. 

Yn ystod yr un cyfnod y llynedd (1 Hydref 2018 – 30 Medi 2019), cafwyd 116,674 o alwadau GWYRDD ymhlith cyfanswm o 470,601 o alwadau, yn cynrychioli cyfran 25 y cant.   

Cysylltwch gyda’r Pennaeth Cyfathrebu, Lois Hough, ar 01745 778671 neu Lois.Hough@wales.nhs.uk i gael rhagor o wybodaeth, os gwelwch yn dda.