Croeso i’r Ystafell, ble gall plant a phobl ifanc gael gwybodaeth am Wasanaethau Ambiwlans Cymru
Eich hawliau
Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymrwymo i Blant a Phobl Ifanc, byddwn yn:
• Gwrando ar eich barn am y gwasanaethau a ddarperir i chi ac yn bwydo eich syniadau a’ch barn i mewn i’r gwasanaeth gorau y gallwn.
• Gweithio i wneud i’r gwasanaeth a gynigir adlewyrchu egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant
• Gweithio i sicrhau bod y gwasanaeth a gynigir i Blant a Phobl Ifanc yn ddiogel ac yn rhoi anghenion plant yn gyntaf.
• Eich parchu chi a’ch hawl i gyfrinachedd, ond mae’n bosibl y bydd yna adegau pan fyddwn angen rhannu gwybodaeth i’ch cadw’n ddiogel.
Mae gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru dîm o bobl a elwir yn ‘Dîm Amddiffyn Plant’. Maen nhw’n gyfrifol am sicrhau bod Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a staff sy’n cynnig gofal yn gwneud hynny’n ddiogel a thrwy weithio gydag asiantaethau eraill fel yr Heddlu, Gwasanaethau Cymdeithasol a gweithwyr iechyd eraill yn helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed.
Rydym yn gweithio tuag at wneud i’r gwasanaeth a gynigir adlewyrchu egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant. I wybod mwy am yr hawliau hyn, cliciwch yma.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau i’w gofyn i’r Tîm Amddiffyn Plant gallwch eu ffonio ar 01792 776252, dydd Llun – dydd Gwener rhwng 9am a 5pm neu anfon ebost at amb_safeguardingteam@wales.nhs.uk
Os na fyddwch yn hapus gydag unrhyw ofal gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, mae yna wybodaeth i helpu ar y dudalen Gweithio i Wella.
Addewidion Plant a Phobl Ifanc
Mae Gwasanathau Ambiwlans Cymru eisiau eich help!!
Byddem yn hoffi i chi ddweud wrthym beth y byddech yn ei ddisgwyl pan fyddwch yn defnyddio Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Nid oes rhaid i chi ddweud wrthym eich enw neu oed a gallwch roi eich adborth hyd yn oed os nad ydych chi wedi ddefnyddio'r gwasanaethau hyn o'r blaen.
Gan ddefnyddio eich holl adborth, byddwn yn gwneud rhestr o 'Addewidion', felly rydym yn gwybod beth sy'n bwysig wrth eich drin neu gofalu amdanoch.
I roi eich adborth i ni, cliciwch yma.
Gwasanaethau eiriolaeth
Os nad ydych yn hapus gyda’r gofal gawsoch gan y gwasanaeth ambiwlans, efallai y byddwch yn dymuno siarad gydag eiriolydd. Mae eiriolydd yn rhywun sy’n eich helpu i ddweud eich dweud a rhoi eich barn. Gallant gynnig cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor a’ch helpu i gwyno os dymunwch. Mae eiriolydd yn annibynnol o’r gwasanaeth a bydd yn siarad gyda chi’n gyfrinachol. Mae gennych hawl i eiriolydd yn rhad ac am ddim.
Mae gwnnych hawl i eiriolwr yn rhad ac am ddim. Er mwyn trefnu eiriolydd, byddwch angen cysylltu â’r Bwrdd Iechyd Lleol. Gallwch weld manylion cyswllt y Bwrdd Iechyd trwy glicio yma.
Yn ogystal, os byddwch angen mwy o gyngor neu gefnogaeth, gallech ffonio MEIC, llinell eiriolaeth a chefnogaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc ar 080880 23456 neu ar lein www.meiccymru.org
Cydsyniad mewn Gofal Iechyd
Mae'r daflen yma ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc o dan 18 oed yng Nghymru. Mae'n esbonio am eich gofal iechyd a'ch hawl i fod yn rhan o'r penderfyniadau am eich iechyd, gofal iechyd neu driniaeth. Cliciwch yma i weld y daflen.
App iPhone Hawliau Plant yng Nghymru
Defnyddiwch y cod QR neu cliciwch ar y ddolen isod i fynd at y siop App Apple a lawrlwytho'r App Hawliau Plant yng Nghymru. Mae'r App wedi cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ar y cyd gyda disgyblion o Ysgol Pentrehafod, Abertawe.