Mae dysgu a datblygu’n hanfodol o fewn
Galw Iechyd Cymru er mwyn sicrhau darparu gofal iechyd o’r safon gorau sy’n
berthnasol i anghenion y gwasanaeth ac sy’n canolbwyntio ar y defnyddwyr.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan
ein staff y wybodaeth a’r sgiliau penodol sy’n angenrheidiol i gyflawni eu
swyddogaethau. Cyflawnir hyn drwy broses o ddysgu a datblygiad parhaus. Mae’r
fframwaith gwybodaeth a sgiliau (KSF) a gyflwynwyd fel rhan o’r Agenda ar gyfer
Newid yn diffinio ac yn disgrifio’r wybodaeth a’r sgiliau y mae’r staff eu
hangen er mwyn cyflenwi gwasanaeth safonol.
Mae’r rhaglenni addysg a datblygiad o
fewn Galw Iechyd Cymru’n cynnwys:
- Paratoi
ar gyfer rôl/rhaglenni cynefino
- Rhaglenni
diweddaru hyfforddiant gorfodol
- Rhaglen
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Dyddiau
cynefino corfforaethol
- Sesiynau
diweddaru systemau
Canllawiau datblygiadol ychwanegol a
ddarperir:
- Canllawiau
arfer gorau
- Awgrymiadau
hyfforddi
- Adnoddau
dysgu ar lein
- Deunyddiau
hyfforddi meddalwedd
- Sesiynau
hyfforddi misol
Cyflwynwyd hyfforddi i mewn i Galw
Iechyd Cymru yn 2005 ac erbyn hyn mae wedi’i gynnwys yn gadarn yn y gwasanaeth.
Rydym yn gyson yn ceisio gwella a chynnal perfformiad a datblygiad personol.
Mae tîm hynod gymwys o Hyfforddwyr Ymarferol yn cynnal hyfforddiant i’r holl
staff clinigol llinell flaen. Hefyd,
mae’r tîm hyfforddi’n cefnogi rheolwyr llinell gydag aelodau tîm unigol o
safbwynt materion perfformiad.
I ddarganfod mwy, gallwch
gysylltu ag aelod o’r tîm ar 01792 776252