
Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAS) yn darparu gwasanaeth newydd i’r cyhoedd yng Nghymru o 1 Gorffennaf 2012 pan fydd Tîm Ymateb Lleoliad Peryglus (HART) yn mynd yn fyw.
Bydd HART yn galluogi WAS i ddarparu gwasanaethau clinigol mewn digwyddiadau peryglus fel llifogydd, adeiladau’n dymchwel, digwyddiadau mewn glofeydd, chwyldro mewn twneli a gwrthdrawiadau cludiant mawr. Hefyd, gellir gweithio ar safle ble mae digwyddiadau cemegol, biolegol, ymbelydrol, niwclear a therfysgaeth.
Bydd y gallu ychwanegol yn cyfannu’r Tîm Ymateb i Weithredoedd Arbennig (SORT), sydd eisoes yn trefnu dadlygru ac ocsigeniad crynswth mewn digwyddiadau o’r fath a darperir lefel gwasanaeth sy’n cymharu â’r gorau yn y byd i’r cyhoedd yng Nghymru.
Mae’r datblygiad hwn yn hynod bwysig wrth i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wynebu sefyllfaoedd mwy cymhleth yn fwy aml.
Bydd y staff a hyfforddwyd yn arbennig yn gweithio ledled Cymru yn ddyddiol, gan ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion. Bydd hyn yn sicrhau y bydd pobl yn cael budd o’r gefnogaeth 365 diwrnod y flwyddyn ac nid yn unig pan mae yna ddigwyddiad mawr.
Meddai’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths AC:
“Rwyn falch iawn o weld HART wedi’i sefydlu. Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol yn hanes Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
“Gyda cherbydau ac offer arbenigol, bydd HART yn darparu ymyrraeth glinigol estynedig mewn meysydd na ddarperir gan staff ambiwlans ar hyn o bryd. Y lleoliad cyntaf oedd y llifogydd diweddar yng Nghanolbarth Cymru, ar er mawr ryddhad na ddefnyddiwyd yr hyfforddiant arbenigol i’r eithaf, ar y pryd roedd yn cynnig yr hyder i wybod bod y gefnogaeth a’r gallu wrth law os oedd angen.
“Bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth y Cynulliad yn galluogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i chwarae mwy o rôl wrth arbed bywydau mewn amgylchedd peryglus a sicrhau bod Cymru yn ymuno â gweddill y D.U. gyda’r gallu cadarn ac integredig i ddelio gyda digwyddiadau difrifol.”
Mae HART wedi a bydd yn parhau i ddatblygu perthnasoedd gwaith agos gyda’r timau arbenigol perthnasol o fewn y Gwasanaeth Tân ac Achub, yr Heddlu a gwasanaethau cysylltiol eraill a bydd hyn yn arwain at well rheolaeth a gwell deilliannau i gleifion rhag digwyddiadau mawr.
Dywedodd Elwyn Price-Morris, Prif Weithredwr WAS:
“Rydym yn ddiolchgar am y buddsoddiad a’r gefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru a fydd yn ymestyn ein hymateb i’r digwyddiadau mwyaf difrifol yma yng Nghymru, a heb amheuaeth yn arbed mwy o fywydau.
“Hefyd, dymunwn ddiolch i’r Gwasanaeth Tân ac Achub am y safon uchel o hyfforddiant a ddarparwyd ar gyfer staff HART.
“Wrth gwrs, ein gobaith yw na fydd galw ar HART i weithredu mewn achosion difrifol yn rhy aml, ond mae gwybod eu bod yn bodoli yma yng Nghymru gobeithio yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl inni gyd a bod yr arbenigedd ar gael os a phryd fydd angen.”