Mae menter ar-lein ryngweithiol newydd yn addysgu porwyr gwe i ‘ddewis yn ddoeth’ pan fyddan nhw angen help a chyngor clinigol.
Gall ymwelwyr â Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Galw Iechyd Cymru gymryd rhan mewn cwis rhyngweithiol wedi’i seilio ar yr ymgyrch Dewis Doeth cenedlaethol.
Mae tystiolaeth yn datgelu bod nifer sylweddol o bobl yn deialu 999 am ambiwlans neu’n mynd i adrannau D&A er bod gwasanaethau mwy addas eraill ar gael i gyflawni eu hanghenion.
Mae Dewis Doeth yn canolbwyntio ar thermomedr llwiau i gynorthwyo pobl i gysylltu eu symptomau neu anaf i’r gwasanaeth sy’n cyflawni eu hanghenion.
Mae’r cwis ar-lein yn gofyn i borwyr pa wasanaeth y bydden nhw’n ei ddewis ar gyfer pum senario salwch neu anaf y maen nhw’n eu hwynebu ar y sgrin.
Ar y diwedd, rhoddir sgôr allan o bump ac amlygir y llwybrau clinigol mwyaf addas ar gyfer unrhyw ateb anghywir.
“Wrth i fwy a mwy o bobl allu defnyddio’r we, diolch i well technoleg, teimlem ei bod yn briodol cefnogi’r ymgyrch pwysig hwn ar-lein.
“Bob dydd, mae’r gwasanaethau ambiwlans yn derbyn nifer o alwadau 999 ar gyfer mân salwch neu anafiadau fel peswch, y ddannodd neu ddolur gwddf. Gall y galwadau hyn gyfeirio ein hadnoddau i ffwrdd oddi wrth y cleifion hynny sydd ein hangen fwyaf …. y rhai sy’n cael trawiad ar y galon, colli gwaed yn ddifrifol neu’n cael strôc.
“Gall ymwelwyr â’r ddwy wefan ein cefnogi drwy sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd y bobl hynny sydd wir ein hangen drwy logio a phrofi eu gwybodaeth glinigol yn y cwis. Os gallwch chi ddewis yr atebion cywir, gallwch ein helpu i sicrhau bod pobl Cymru’n cael y gofal cywir yn y lle cywir ar yr amser cywir.”
I ymweld â Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Galw Iechyd Cymru ar-lein, ewch i: www.ambulance.wales.nhs.uk / www.nhsdirect.wales.nhs.uk
I gael gwybod mwy am sut i ddefnyddio’r Ymgyrch Dewis Doeth i’ch helpu i ddewis y gofal meddygol priodol – ewch i www.choosewellwales.org.uk www.dewisdoethcymru.org.uk