'Cookies' ar y wefan hon

Rydym yn defnyddio ‘cookies’ ar ein gwefan. Os byddwch yn parhau heb newid eich gosodiadau, byddwn yn tybio eich bod yn hapus i dderbyn yr holl ‘cookies’ ar wefan Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Fodd bynnag, os hoffech, gallwch newid eich gosodiadau ‘cookie’ ar unrhyw adeg.
Welsh Ambulance Services NHS Trust

Newyddion
Diweddaraf

 

Meddwl modern deallus yn helpu I weld cynnydd yng nghefnogaeth iechyd dros y we

Mae gwefan gofal a gwybodaeth iechyd wedi torri ei record o ymweliadau misol gyda chynnydd yn y defnydd deallus o dechnoleg gan borwyr y we.

Roedd gwefan Galw Iechyd Cymru’n ymateb i 112,125 ymweliad â’r safle yn ystod mis Mawrth, mwy na dwywaith y rhif oedd yn ymweld â’r safle yn 2011. A dyma’r trydydd mis yn ddilynol y mae’r wefan iechyd a chyngor wedi torri ei record a mynd dros 100,000.

Gall pobl sy’n teimlo’n sâl ac ansicr ynglyn â’r hyn y dylen nhw ei wneud alw ar y gwasanaeth 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn. Ynghyd â’r opsiwn o gysylltu dros y ffôn, gall pobl hefyd ymweld â’r un cyngor a gwybodaeth ag sydd ar gael dros ffonau deallus, wrth glicio botwm.

Mae’r wefan - www.nhsdirect.wales.uk - yn caniatáu i ymwelwyr ddysgu mwy am eu hiechyd drwy’r gwyddoniadur ’ A-Z ac mae'n caniatáu i chi chwilio, yn eich amser eich hun, am ddeintydd, fferyllfa neu grwp cefnogi yn eich ardal ynghyd â chynnig Gwasanaeth Ymholiadau Ar-lein dwyieithog ar gyfer unrhyw gwestiynau am wybodaeth iechyd sydd gennych. Hefyd, gellir defnyddio’r Gwasanaeth Ymholiadau Ar-lein ar gyfer Gwybodaeth am Bresgripsiynau i’ch helpu i ddeall a rheoli cyflyrau tymor hir yn well.

Mae’r cynnydd yn y nifer o ymweliadau â’r safle o ganlyniad i ddatblygiadau mewn technoleg symudol fodern. Yn ystod mis Mawrth 2011, roedd technoleg symudol yn creu 9.35 y cant o ymweliadau’n unig. Blwyddyn yn ddiweddarach, roedd wedi cynyddu i ychydig dros chwarter yr ymweliadau misol ar 26.5 y cant.

Dywedodd Dr Paul Hughes, Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Rydym yn hynod o falch bod mwy a mwy o bobl yn chwilio am gymorth ac arweiniad drwy ein gwefan. Mae’n braf hefyd gweld bod mwy o bobl yn chwilio amdanom ni drwy ffonau modern sy’n golygu bod ein hystod o gymorth yn ehangu oherwydd bod technoleg boblogaidd yn datblygu’n gyflym.

“Os ydych chi’n teimlo’n sâl neu fod gennych bryderon iechyd, gallwch ymweld â’r wefan. Mae’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth a bydd yn eich cyfeirio i’r cyfeiriad cywir i gael y gofal neu’r driniaeth rydych eu hangen ar gyfer salwch neu anaf.”

Beth am ymweld â Gwefan Galw Iechyd Cymru ar www.nhsdirect.wales.nhs.uk neu ffonio 0845 46 47 i gael cyngor a gwybodaeth iechyd.




16 Apr 2012 10:07